| Oct | NOV | Dec |
| 14 | ||
| 2011 | 2012 | 2013 |
COLLECTED BY
Collection: Wide Crawl started September 2012
Yrenaid yw'r rhan ysbrydol o ddyn neu ddynes sy'n teimlo, deall, cofio ac amgyffred (mewn gwrthgyferbyniad â'r materol). Mae'r gred yn yr enaid yn hynafol iawn — fe'i ceir yng nghrefydd Yr Hen Aifft er enghraifft — ond fe'i cysylltir yn bennaf heddiw ag athrawiaethau'r crefyddau mawr sefydledig, sef Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, HindwaethaBwdhaeth, er bod yr ystyr yn amrywio, yn arbennig yn achos y ddwy olaf.
Credir fod gan yr enaid fodolaeth annibynnol ar y corff a'i fod yn bodoli mewn rhyw ffurf neu'i gilydd ar ôl marwolaeth.
Mae eiconiaeth Cristnogaeth yn ei ddarlunio'n aml fel baban newydd-anedig yn cael ei gludo i fyny i'r Nefoedd neu wedi'i lapio mewn llian, sy'n cynryhcioli mynwes Abraham. Yn yr Eglwys Fore mae'r gloyn byw yn ei gynrychioli, fel a welir yn y paentiadau gan Gristnogion cynnar ar furiau'r catacombs, er enghraifft (benthyciad o fytholeg Roeg a'r traddodiad Clasurol). Er bod enaid yn debyg i ysbryd, mae'r Beibl yn gwahaniaethu rhyngddynt (yn y llythyr at y Hebreaid).
Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.