57 captures
24 Jun 2011 - 24 Oct 2025
May JUN Jul
19
2012 2013 2014
success
fail

About this capture

COLLECTED BY

Organization: Internet Archive

The Internet Archive discovers and captures web pages through many different web crawls. At any given time several distinct crawls are running, some for months, and some every day or longer. View the web archive through the Wayback Machine.

Collection: Wide Crawl started April 2013

Web wide crawl with initial seedlist and crawler configuration from April 2013.
TIMESTAMPS

The Wayback Machine - http://web.archive.org/web/20130619041310/http://cy.wikipedia.org/wiki/Aenid
 



Aenid



Oddi ar Wicipedia


Neidio i: llywio, chwilio  
Aeneas yn ffoi o Gaerdroa, Federico Barocci, 1598.

Cerdd Ladin gan y bardd Rhufeinig Fyrsil yw'r Aeneid (Lladin: Aeneis, daw y ffurf "Aenid" o'r Groeg). Ysgrifennwyd y gerdd rheng 29 CCac19 CC. Mae'n adrodd hanes Aeneas, mab i'r tywysog Anchises a'r dduwies Aphrodite (Gwener); mae Anchises yn gefnder i Priam, brenin Caerdroea. Yn yr Iliad, ef yw arweinydd y Dardaniaid sy'n ymladd ar ochr Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac mae'n un o gynghreiriaid agosaf Hector. Pan syrth dinas Caerdroes ar ddiwedd Rhyfel Caerdroea, llwydda Aeneas i ddianc o'r ddinas.

Dechreua'r Aenid gydag Aeneas yn hwylio tua'r Eidal i chwilio am gartref newydd. Gyrr y dduwies Juno stormydd, a gyrrir ef i Ogledd Affrica a dinas Carthago, lle mae'r frenhines Dido yn syrthio mewn cariad ag Aeneas. Er hynny, mae Aeneas yn mynnu gadael, ac yn teithio i'r Eidal. Yn ail hanner y gerdd, ceir hanes ei frwydro yn erbyn y Lladiniaid. Mae'n ymsefydlu yn Latium, lle mae'n priodi Lavinia, merch y brenin Latinus, ac yn sefydlu dinas Lavinium.

Yn ddiweddarach, dywedir i'w fab, Ascanius, yn sefydlu dinas Alba Longa, a gyfrannodd at sefydlu dinas Rhufain, felly mae'r Aenid yn epig genedlaethol Rhufain. Ystyriai brenhinoedd Teyrnas Rhufain eu hunain fel disgynyddion Aeneas, ac roedd teulu yr Iulii, yn eu plith Iŵl Cesar, yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion Aeneas, a felly'n ddisgynyddion y dduwies Gwener. Ysgrifennwyd y gerdd dan yr ymerawdwr Augustus, nai a mab mabwysiedig Iŵl Cesar.

Dechreua'r gerdd gyda'r geiriau enwog Arma virumque cano..., ("Canaf am arfau ac am ddyn ...").

Daeth yr Aenid yn garreg glo mewn gwersi Lladin, erbyn diwedd yr ail ganrif OC,[1] ac roedd dygu'r gwaith ar y co, yn hanfodol.[2]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Kleinberg, Aviad M. (2008). Flesh Made Word: Saints' Stories and the Western Imagination. Harvard UP. tud. 68. ISBN 978-0-674-02647-6. http://books.google.com/books?id=y9SFs9Tvm1UC&pg=PA68. 
  • Montaner, Carlos Alberto (2003). Twisted Roots: Latin America's Living Past. Algora. tud. 118. ISBN 978-0-87586-260-6. http://books.google.com/books?id=eybIGmuny64C&pg=PA118. 
  • Wedi dod o "http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Aenid&oldid=1521314" 

    Categori: 
    Llenyddiaeth Ladin Glasurol




    Llywio



    Offer personol



    Creu cyfrif newydd
    Mewngofnodi
     



    Parthau



    Erthygl

    Sgwrs
     


    Amrywiolion









    Golygon



    Darllen

    Golygu

    Gweld yr hanes
     


    Gweithrediadau













    Panel llywio




    Hafan

    Porth y Gymuned

    Y Caffi

    Materion cyfoes

    Newidiadau diweddar

    Erthygl ar hap

    Cymorth

    Rhoi
     



    Blwch offer




    Beth sy'n cysylltu yma

    Newidiadau perthnasol

    Tudalennau arbennig

    Fersiwn argraffu

    Dolen barhaol

    Gwybodaeth am y dudalen

    Cyfeiriwch at yr erthygl hon
     



    Ieithoedd eraill




    Aragonés

    Ænglisc

    العربية

    مصرى

    Asturianu

    Беларуская (тарашкевіца)

    Български





    Brezhoneg

    Bosanski

    Català

    Česky

    Dansk

    Deutsch

    Ελληνικά

    English

    Esperanto

    Español

    Eesti

    Euskara

    فارسی

    Suomi

    Français

    Furlan

    Gaeilge

    Galego

    עברית

    Hrvatski

    Magyar

    Interlingua

    Bahasa Indonesia

    Ilokano

    Ido

    Íslenska

    Italiano



    Қазақша



    Kurdî

    Latina

    Lietuvių

    Latviešu

    Монгол

    Malti

     

    Nederlands

    Norsk bokmål

    Occitan

    Polski

    Português

    Română

    Русский

    Sicilianu

    Scots

    Srpskohrvatski / српскохрватски

    Simple English

    Slovenčina

    Slovenščina

    Shqip

    Српски / srpski

    Svenska

    Tagalog

    Türkçe

    Українська



    Golygu cysylltau
     







    Newidiwyd y dudalen hon ddiwethaf 01:46, 14 Mai 2013.

    Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded Creative Commons Attribution/Share-Alike; gall fod telerau ychwanegol yn perthyn i'r testun. Gweler Telerau Defnyddio'r Drwydded am fanylion pellach.
     


    Polisi preifatrwydd

    Ynglŷn â Wicipedia

    Gwadiadau

    Golwg drwy'r teclun symudol
     


    Wikimedia Foundation
    Powered by MediaWiki